Cyngor Tref Conwy Town Council

Rhybudd Cyhoeddus - Seddi Gwag - Ward Deganwy


Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a fod yr Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflawni'r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd neu yn ddinesydd tramor cymwys ac yn 18 oed neu'n hyn, ac yn cyflawni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • wedi'ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu 
  • yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu'n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu 
  • wedi bod â'ch prif neu'ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf. 

Mae rhai pobl penodol wedi'u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy'n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a'r rheiny sy'n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Mae'r gyfrifoldeb yn eistedd gyda'r ymfgeisydd i sicrhau eu bod yn gymwysedig i ymgeisio. 

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â Chlerc y Cyngor Cymuned ar/yn:

Rachel Lees, Clerk to the Council
Rhif: 01492 596254
E-bost: rachel.lees@conwytowncouncil.gov.uk
erbyn: 28 Gorffennaf 2026

Rhybudd Cyhoeddus - Seddi Gwag (PDF)



...Yn ôl i'r rhestr.

© 2026 Hawlfraint Cyngor Tref Conwy. Gwefan gan Delwedd.