I bawb a dderbynio'r Presenolion hyn - Cyfarchion; oherwydd i'r swydd o Gwnstabl ein Castell a'n Tref, sef Conwy, yng Nghymm ein Tywysogaeth, gael ei rhoi a'l chyflwyno i Faer Conwy ar y pryd,drwy Lythyrau a waned yn Llythyrau Breiniol ar y trydydd dydd ar ddeg o Fawrth ym mlwyddyn Ein Harglwydd, un fil, wyth cant, wyth deg a phump yn yr wythfed flwyddyn a deugain Teyrnasiad ein Rhagflaenydd Brenhinol - y Frenhines Victoria. Bydded hysbys i chwi, ein bod drwy'r Presenolion hyn yn diddymu'r Llythyrau Breiniol hynny, a bydded hysbys i chwi ymhellach, ein bod ni,drwy ein gras arbennig, ein gwybodaeth sicr, a'n gweithred syml yn rhoi ac yn cyflwyno, drwy'r Presenolion hyn i'n ddibynadwy a chariadus Faer y swydd o GWNSTABL ein CASTELL a'n TREF, sef Conwy, yng Ngwynedd ein Sir, yng Nghymru ein Tywysogaeth a enwyd uchod,a'n bod, drwy'r Presenolion hyn, yn ei wneud, ei ordeinio, ei greu a'i sefydlu i ddal y swydd honno, tra rhyngo ein bodd heb gyflog nac unrhyw gydnabyddiaethau eraiil a ddeillia o'n tir,nac unrhyw Gyllid arall;
ond ar wahân i hynny, gyda phob rhyddlid breintiau a manteision sydd ynghlwm ac a berthyn i'r swydd honno. Yn dystiolaeth o hyn, y parasom wneud ein Llythyrau hyn yn Llythyrau Breiniol. Tyst ohonom ni ein hunain yn San Steffan, y chweched dydd o Dachwedd ym mhedwaredd flwyddyn ar hugain ein Teyrnasiad.
Drwy Warant dan Lofnod y Frenhines
Conwy Town Council
Guildhall
Rose Hill Street
CONWY
LL32 8LD
Ffôn: (01492) 596254
E-bost: info@conwytowncouncil.gov.uk
© 2023 Hawlfraint Cyngor Tref Conwy. Gwefan gan Delwedd.