Cyngor Tref Conwy Town Council

Treftadaeth


UNESCO World Heritage Site

Dynodwyd Conwy yn Safle Treftadaeth y Byd, ac yn sicr mae'r ymysg trefi caerog canol oesol gorau’r byd. Wrth agosáu at y dref  ar y ffordd fawr yr olygfa gyntaf a welwch yw waliau trawiadol castell mawreddog Edward I. Adeiladwyd campwaith pensaernïol y castell rhwng 1283 a 1287, ac mae ei hanes yn adrodd rhan bwysig o stori ddiddorol y dref ei hun. 

Mae'r waliau yn cadw tri o'r pyrth gwreiddiol sy'n gwneud taith gerdded gyffrous gyda golygfeydd gwych i lawr i'r cei a’r harbwr tlws llawn cychod hwylio. Mae cefndir mynyddig gwyrdd yn ategu'r olygfa. Gyda chyfoeth o atyniadau o bob cyfnod hanesyddol, llu o ddigwyddiadau, dewis eang o lety, tai bwyta a siopau, Conwy yw'r man perffaith am ddiwrnod allan neu wyliau gwych. 

Mae Conwy yn aelod o Gylch Cyfeillion Trefi Caerog sydd â dros 150 o gyfranogwyr ledled y byd sy'n ceisio cysylltu’r rhinweddau unigryw sy'n gyffredin i drefi caerog.

I weld ein harweiniad newydd i'r dref, cliciwch yma.

Conwy Castle

© 2024 Hawlfraint Cyngor Tref Conwy. Gwefan gan Delwedd.